Lleoliad y cyfarfod:
Y Siambr - Y Senedd
Dyddiad y
cyfarfod:
Dydd Mawrth,
18 Ionawr 2022
Amser y
cyfarfod: 13.30
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV yn:
http://senedd.tv/cy/12590
------
Cynhaliwyd y cyfarfod hwn ar ffurf rhithwir, gyda’r Aelodau yn ymuno drwy gyswllt fideo.
1 Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Dechreuodd yr eitem am 13.30
Gofynnwyd cwestiynau 1, 2 a 4 - 9. Tynnwyd cwestiwn 3 yn ôl. Gwahoddodd y Llywydd arweinwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau i’r Prif Weinidog ar ôl cwestiwn 2.
2 Datganiad a Chyhoeddiad Busnes
Dechreuodd yr eitem am 14.31
3 Datganiad gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: Diweddariad ar Covid-19
Dechreuodd yr eitem am 14.43
4 Datganiad gan Weinidog yr Economi: Economïau Rhanbarthol Cryfach
Dechreuodd yr eitem am 15.10
5 Datganiad gan Ddirprwy Weinidog y Celfyddydau a Chwaraeon, a'r Prif Chwip: Y wybodaeth ddiweddaraf am y cynnydd yn dilyn cyhoeddi 'Y Fasnach mewn Caethweision a'r Ymerodraeth Brydeinig: archwiliad o Goffáu yng Nghymru'
Dechreuodd yr eitem am 16.03
6 Datganiad gan y Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a'r Trefnydd: BlasCymru/TasteWales – hyrwyddo bwyd a diod o Gymru i’r byd
Dechreuodd yr eitem am 16.37
7 Datganiad gan y Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad: Cymorth Cyfreithiol a Mynediad at Gyfiawnder
Dechreuodd yr eitem am 17.14
8 Rheoliadau Cynlluniau Gostyngiadau’r Dreth Gyngor (Gofynion Rhagnodedig a’r Cynllun Diofyn) (Cymru) (Diwygio) 2022
Dechreuodd yr eitem am 18.05
NDM7884 Lesley Griffiths (Wrecsam)
Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 27.5:
1. Yn cymeradwyo bod y fersiwn ddrafft o Rheoliadau Cynlluniau Gostyngiadau’r Dreth Gyngor (Gofynion Rhagnodedig a’r Cynllun Diofyn) (Cymru) (Diwygio) 2022 yn cael ei llunio yn unol â’r fersiwn ddrafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 7 Rhagfyr 2021.
Dogfennau
Ategol
Memorandwm
Esboniadol
Adroddiad y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r
Cyfansoddiad
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Derbyniwyd cynnig o dan Reol Sefydlog 12.24 i gynnal dadl ar eitemau 9 a 10 gyda'i gilydd ond gyda phleidleisiau ar wahân.
9 Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol ar Fil yr Heddlu, Troseddu, Dedfrydu a’r Llysoedd: Cynnig 1
Dechreuodd yr eitem am 18.10
Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig o dan yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio.
NDM7882 Jane Hutt (Bro Morgannwg)
Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 29.6, yn cytuno y dylai Senedd y DU ystyried darpariaethau ym Mil yr Heddlu, Troseddu, Dedfrydu a’r Llysoedd, sef 'Adroddiad cyfamod yr Heddlu', 'Cynyddu’r gosb am ymosod ar weithiwr brys', Rhan 2, Pennod 1 'Swyddogaethau sy'n ymwneud â thrais difrifol' (gan gynnwys 'Swyddogaethau sy'n ymwneud â thrais difrifol', 'Arfer swyddogaethau', 'Diwygiadau i Ddeddf Trosedd ac Anhrefn 1998 etc', a 'Cyffredinol'), Rhan 2, Pennod 2 'Adolygiadau o laddiadau ag arfau tramgwyddus', 'Echdynnu gwybodaeth o ddyfeisiau electronig: ymchwiliadau i droseddau etc, 'Cymhwyso adran 36 i blant ac oedolion heb alluedd', 'Gofynion ar gyfer darparu’n wirfoddol a chytuno', 'Cod ymarfer ynghylch echdynnu gwybodaeth', 'Rheoliadau ynghylch echdynnu gwybodaeth gyfrinachol', 'Personau awdurdodedig', 'Cynnydd yn y gosb am droseddau sy'n ymwneud â helwriaeth etc’, ac 'achosi niwsans cyhoeddus yn fwriadol neu'n ddi-hid', i’r graddau y maent yn dod o fewn cymhwysedd deddfwriaethol y Senedd.
Gosodwyd Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol yn y Swyddfa Gyflwyno ar 28 Mai 2021 a gosodwyd Memoranda Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol yn y Swyddfa Gyflwyno ar 5 Tachwedd 2021, 20 Rhagfyr 2021 a 7 Ionawr 2022 yn unol â Rheol Sefydlog 29.2.
Mae copi o’r Bil i’w weld ar wefan Senedd y DU:
Bil yr Heddlu, Troseddu, Dedfrydu a’r Llysoedd (Saesneg yn unig)
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
42 |
0 |
12 |
54 |
Derbyniwyd y cynnig.
10 Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol ar Fil yr Heddlu, Troseddu, Dedfrydu a’r Llysoedd: Cynnig 2
Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig o dan yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio.
NDM7883 Jane Hutt (Bro Morgannwg)
Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 29.6, yn cytuno y dylai Senedd y DU ystyried darpariaethau ym Mil yr Heddlu, Troseddu, Dedfrydu a’r Llysoedd, sef 'Difrod troseddol i gofebau: dull treial', 'Gosod amodau ar orymdeithiau cyhoeddus', 'Gosod amodau ar gynulliadau cyhoeddus', 'Gosod amodau ar brotestiadau un person', 'Trosedd yn ymwneud â byw ar dir heb ganiatâd mewn cerbyd neu gyda cherbyd', ‘Diwygiadau i bwerau sy’n bodoli', a 'Canllawiau ar arfer pwerau'r heddlu mewn perthynas â thresmasu ar dir etc', i'r graddau y maent yn dod o fewn cymhwysedd deddfwriaethol y Senedd.
Gosodwyd Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol yn y Swyddfa Gyflwyno ar 28 Mai 2021 a gosodwyd Memoranda Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol yn y Swyddfa Gyflwyno ar 5 Tachwedd 2021, 20 Rhagfyr 2021 a 7 Ionawr 2022 yn unol â Rheol Sefydlog 29.2.
Mae copi o’r Bil i’w weld ar wefan Senedd y DU:
Bil yr Heddlu, Troseddu, Dedfrydu a’r Llysoedd (Saesneg yn unig)
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
14 |
0 |
40 |
54 |
Gwrthodwyd y cynnig.
Yn unol â Rheol Sefydlog 12.18, am 18.57 cafodd y trafodion eu hatal dros dro i ganiatáu egwyl technegol cyn y Cyfnod Pleidleisio.
11 Cyfnod pleidleisio
Dechreuodd yr eitem am 18.59
Daeth y cyfarfod i ben am 19.01
Cynhelir Cyfarfod Llawn nesaf y Senedd am 13.30, Dydd Mercher, 19 Ionawr 2022